2012 Rhif 1156 (Cy. 139)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) (Rhif 2) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2011 (“y Prif Reoliadau”) yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â blynyddoedd academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Prif Reoliadau.

Mae'r Rheoliadau hyn yn ychwanegu tri therm newydd at restr y termau a ddiffinnir yn y Prif Reoliadau. Mae'r term “cwrs dysgu o bell” yn cyfeirio at gwrs dysgu o bell amser-llawn sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012. Mae “carcharor cymwys” yn garcharor sy'n bodloni gofynion cymhwystra penodol a nodir yn y diffiniad, gan gynnwys cael ei awdurdodi i astudio cwrs addysg uwch sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012. Mae'r term “carcharor” yn cyfeirio at berson sy'n bwrw dedfryd mewn carchar yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys person sy'n cael ei gadw’n gaeth mewn sefydliad troseddwyr ifanc.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 4 o'r Prif Reoliadau. Mae'r diwygiad hwn yn sicrhau, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol, mai dim ond carcharorion sy'n garcharorion cymwys fydd yn gallu cael cymorth ariannol o dan y Prif Reoliadau mewn perthynas â chyrsiau addysg uwch sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 5 o'r Prif Reoliadau drwy ychwanegu at y meini prawf ar gyfer dynodi cyrsiau o dan y Prif Reoliadau. Ni fydd y diwygiad hwn yn gymwys ond i ddynodi cyrsiau sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012.

Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 6 o'r Prif Reoliadau sy'n ymwneud â chyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys o dan y Prif Reoliadau. Effaith y diwygiad hwn yn achos myfyriwr sydd wedi methu â chwblhau cwrs blaenorol am resymau personol anorchfygol, yw caniatáu, mewn rhai amgylchiadau, i flwyddyn ychwanegol gael ei hychwanegu at ei gyfnod cymhwystra o dan y Prif Reoliadau.

Mae rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 13 o'r Prif Reoliadau. Mae'r diwygiad hwn yn cadarnhau na chaniateir i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chyrsiau dysgu o bell amser-llawn ar neu ar ôl 1 Medi 2012 gael cymorth at ffioedd o dan y Prif Reoliadau oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn ymgymryd â'r cwrs yng Nghymru.

Mae rheoliad 8 yn diwygio rheoliad 25 o'r Prif Reoliadau sy'n gwneud darpariaeth am y grantiau sydd ar gael at gostau byw o dan y Prif Reoliadau. Mae'r diwygiad hwn yn darparu na fydd grant at gostau byw myfyrwyr anabl ar gael ond i garcharorion a ddechreuodd gyrsiau addysg uwch cyn 1 Medi 2012. Mae hefyd yn darparu na fydd hawlogaeth gan fyfyrwyr sy'n dechrau cyrsiau dysgu o bell amser-llawn ar neu ar ôl y dyddiad hwn i gael unrhyw grant at gostau byw o dan y Prif Reoliadau ac eithrio grant at gostau byw myfyrwyr anabl.

Mae rheoliad 9 yn diwygio rheoliad 26 o'r Prif Reoliadau sy'n ymwneud â grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl mewn perthynas â chyrsiau amser-llawn. Mae'r diwygiad hwn yn sicrhau bod y grantiau hyn ar gael i fyfyrwyr sy'n dechrau cyrsiau dysgu o bell amser-llawn ar neu ar ôl 1 Medi 2012.

Mae rheoliad 10 yn diwygio rheoliad 46 o'r Prif Reoliadau i gadarnhau nad oes benthyciadau at gostau byw o dan y Prif Reoliadau ar gael mewn perthynas â chyrsiau dysgu o bell amser-llawn sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012.

Mae rheoliad 11 yn diwygio rheoliad 74 o'r Prif Reoliadau i gadarnhau na chaniateir i gyrsiau dysgu o bell amser-llawn, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol, fod yn gyrsiau dysgu o bell dynodedig o dan y Prif Reoliadau oni bai eu bod wedi dechrau cyn 1 Medi 2012.

Mae rheoliad 12 yn diwygio rheoliad 89 o'r Prif Reoliadau er mwyn caniatáu i fyfyrwyr rhan-amser fod â hawl i gael cymorth ariannol o dan y rheoliadau hynny mewn perthynas â chyrsiau rhan-amser sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012.

Mae rheoliad 13 yn diwygio rheoliad 105 o'r Prif Reoliadau drwy ymestyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno ceisiadau am gymorth ariannol o dan y rheoliadau hynny mewn perthynas â chyrsiau rhan-amser.

Mae rheoliad 14 yn mewnosod darpariaeth ychwanegol yn Atodlen 1 i'r Prif Reoliadau. Mae Atodlen 1 yn nodi'r categorïau amrywiol o fyfyrwyr cymwys at ddibenion y Prif Reoliadau.

 


2012 Rhif 1156 (Cy. 139)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) (Rhif 2) 2012

Gwnaed                                  26 Ebrill 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       27 Ebrill 2012

Yn dod i rym                              18 Mai 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998([1]), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy([2]), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) (Rhif 2) 2012.

(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Mai 2012 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio

2. Mae Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2011([3]) wedi eu diwygio yn unol â'r rheoliadau canlynol.

3. Yn rheoliad 2(1), yn y man priodol, mewnosoder—

“ystyr “carcharor” (“prisoner”) yw person sy'n bwrw dedfryd mewn carchar yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys person sy'n cael ei gadw’n gaeth mewn sefydliad troseddwyr ifanc;

ystyr “carcharor cymwys” (“eligible prisoner”) yw carcharor—

(a)     sy'n dechrau'r cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012;

(b)     sydd wedi ei awdurdodi gan Lywodraethwr neu Gyfarwyddwr y carchar neu awdurdod priodol arall i astudio’r cwrs presennol;

(c)     y mae ei ddyddiad rhyddhau cynharaf o fewn 6 mlynedd i ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol;

(ch) nad yw wedi trosglwyddo i'r cwrs presennol o dan reoliad 8 o gwrs sy'n dechrau cyn 1 Medi 2012; a

(d) nad yw'n dechrau cwrs penben ar neu ar ôl 1 Medi 2012;

ystyr “cwrs dysgu o bell” (“distance learning course”) yw cwrs amser-llawn sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ac nad yw'r sefydliad sy'n darparu'r cwrs yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr sy'n ymgymryd â'r cwrs fod yn bresennol arno, ac eithrio er mwyn bodloni unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad—

(a)  at ddibenion cofrestru, ymrestru neu unrhyw

      arholiad; neu

(b)  ar benwythnos neu yn ystod unrhyw wyliau;”.

4. Ar ôl rheoliad 4(11) mewnosoder—

“(12) Yn ddarostyngedig i baragraff (13), ni fydd carcharor sy'n dechrau'r cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012 yn fyfyriwr cymwys oni bai—

(a)     ei fod yn garcharor cymwys;

(b)     ei fod yn fyfyriwr cymwys sydd wedi trosglwyddo i'r cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012 o dan reoliad 8 o gwrs sy'n dechrau cyn 1 Medi 2012; neu

(c)     bod y cwrs presennol yn gwrs penben.

(13) Nid yw paragraff (12) yn gymwys o ran blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.”

5. Yn rheoliad 5(1)—

(a)     ar ddiwedd is-baragraff (b)(ii) hepgorer “neu”;

(b)     ar ddiwedd is-baragraff (b)(iii) mewnosoder “neu”;

(c)     ar ôl is-baragraff (b)(iii) mewnosoder—

“(iv) cwrs dysgu o bell ac eithrio cwrs y mae rheoliad 74(5) yn gymwys iddo;”;

(d)     ar ddiwedd is-baragraff (ch) hepgorer “a”;

(e)     ar ddiwedd is-baragraff (d) yn lle “.” rhodder “; ac”; ac

(f)      ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—

“(dd) ar gyfer cwrs sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ac sy'n dod o fewn paragraffau 1, 2, 4, 6, 7 neu 8 o Atodlen 2, os yw’n gwrs sy'n arwain at ddyfarniad sydd wedi ei roi neu sydd i’w roi gan gorff sy'n dod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988([4]).”

6. Yn rheoliad 6(9), yn lle is-baragraff (b) rhodder—

“(b) yn achos myfyriwr cymwys na chwblhaodd yn llwyddiannus y cwrs blaenorol diweddaraf am resymau personol anorchfygol—

                           (i)    bod un flwyddyn ychwanegol yn cael ei hadio; a

                         (ii)    caniateir i flwyddyn ychwanegol arall gael ei hadio os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar ôl rhoi sylw i’r rhesymau hynny.”

7. Ar ôl rheoliad 13(4) mewnosoder—

“(5) Nid oes gan fyfyriwr cymwys sy'n ymgymryd â chwrs dysgu o bell hawl i gael unrhyw gymorth at ffioedd o dan y Rhan hon oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs yng Nghymru.”

8. Yn rheoliad 25—

(a)     ar ôl y geiriau “myfyrwyr anabl” ym mharagraff (13) mewnosoder “sy'n daladwy mewn cysylltiad â chwrs dynodedig sy'n dechrau cyn 1 Medi 2012”; a

(b)     ar ôl paragraff (15) mewnosoder—

“(16) Nid oes gan fyfyriwr cymwys sy'n ymgymryd â chwrs dysgu o bell hawl i gael unrhyw grant o dan y Rhan hon ac eithrio grant at gostau byw myfyrwyr anabl yn unol â rheoliad 26.”

9. Yn rheoliad 26—

(a)     ar ôl y geiriau “gwrs dynodedig” ym mharagraff (1) mewnosoder “neu mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae'n ymgymryd ag ef”; a

(b)     ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

“(6) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â chwrs dysgu o bell oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs yng Nghymru.”

10. Ar ôl rheoliad 46(9) mewnosoder—

“(10) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw o dan y Rhan hon os yw'n ymgymryd â chwrs dysgu o bell.”

11.(1)(1) Yn rheoliad 74(2)—

(a)     ar ddiwedd is-baragraff (c) hepgorer “ac”;

(b)     ar ddiwedd is-baragraff (ch), yn lle “.” rhodder “; a”; ac

(c)     ar ôl is-baragraff (ch) mewnosoder—

“(d) yn ddarostyngedig i baragraff (5), dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012.”

(2) Ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

“(5) Mae cwrs sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 yn gwrs dysgu o bell dynodedig—

(a)     os yw myfyriwr yn trosglwyddo i'r cwrs hwnnw yn unol â rheoliad 83 o gwrs dysgu o bell dynodedig blaenorol a ddechreuodd cyn 1 Medi 2012; a

(b)     pe byddai’r cwrs hwnnw fel arall yn gwrs dynodedig at ddibenion rheoliad 5.”

12. Yn rheoliad 89(3)—

(a)     ar ddiwedd is-baragraff (ch) mewnosoder “neu”;

(b)     ar ddiwedd is-baragraff (d), yn lle “; neu” rhodder “.”; ac

(c)     hepgorer is-baragraff (dd).

13.(1)(1) Yn rheoliad 105(3), yn lle'r gair “chwe” rhodder “naw”.

(2) Yn rheoliad 105(4)(a), yn lle'r gair “chwe” rhodder “naw”.

14. Ar ôl paragraff  1(6) o Ran 1 o Atodlen 1 mewnosoder—

“(7) At ddibenion yr Atodlen hon, ystyrir bod carcharor cymwys yn preswylio fel arfer yn y rhan o'r Deyrnas Unedig lle yr oedd y carcharor yn preswylio cyn cael ei ddedfrydu.”

 

 

 

 

Leighton Andrews

 

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

 

26 Ebrill 2012

 

 

 

 

 

 



([1])           1998 p.30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p.1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p.14), adran 147, Deddf Addysg Uwch 2004 (p.8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7, a Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p.22), adran 257.  Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i gael y diffiniad o “prescribed” a “regulations”.

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c), (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149) (C.79)) fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159) (C.56)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30(1) a 30(2)(c) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

([3])           O.S. 2011/886 (Cy.130) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2011/1978 (Cy.218) ac O.S. 2012/14 (Cy.5).

([4])           1988 p.40; diwygiwyd adran 214(2) gan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13), adran 93 ac Atodlen 8.